

Cyflwyniad
Mae'r papur hwn yn darparu tystiolaeth ar ran Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip, a'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol. Mae strwythur y papur yn cyd-fynd â chylch gorchwyl y Pwyllgor ar gyfer ei ymchwiliad.
Mae Atodiad A yn rhoi trosolwg o grwpiau Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi cyflogaeth pobl anabl
Cynnwys
2. Trosolwg o'r Bwlch Cyflogaeth a Chyflogau
3. Cynnydd ers Adroddiad Drws ar Glo
4. Ymgorffori'r Model Cymdeithasol o Anabledd
Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl
Atodiad A: Trosolwg o grwpiau Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi cyflogaeth pobl anabl
Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl
Gweithgor Cyflogaeth Pobl Anabl
1.1 Mae'r papur hwn yn darparu tystiolaeth ar ran Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip, a'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol. Mae strwythur y papur yn cyd-fynd â chylch gorchwyl y Pwyllgor ar gyfer ei ymchwiliad.
1.2 Mae Atodiad A yn rhoi trosolwg o grwpiau Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi cyflogaeth pobl anabl.
2.1 Mae Adroddiad Llesiant Cymru 2024[1] yn dangos:
a. Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024, y gyfradd cyflogaeth ymysg pobl anabl rhwng 16 a 64 oed yng Nghymru oedd 51.0%, tra bo'r gyfradd ar gyfer pobl nad ydynt yn anabl yn 81.9%. Mae’r bwlch yn y gyfradd cyflogaeth ar gyfer pobl anabl yn 2023-24, sef 30.9 pwynt canran, wedi gostwng o 35.4 pwynt canran yn 2015-16.
b. Roedd y gwahaniaeth cyflog rhwng pobl anabl a phobl heb anabledd yng Nghymru yn £1.75 (12.2%) yn 2023. Mae hyn yn golygu bod pobl anabl yng Nghymru yn ennill £1.75 yn llai'r awr ar gyfartaledd na phobl nad ydynt yn anabl. Mae’r gwahaniaeth cyflog wedi cynyddu £0.43 (2.5 pwynt canran) o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Ers 2019, mae gwerth y gwahaniaeth cyflog ar sail anabledd wedi gostwng fymryn bach (£0.01), ond oherwydd cyflogau uwch fesul awr ar gyfer gweithwyr anabl a gweithwyr nad ydynt yn anabl, fel canran, gostyngodd y gwahaniaeth cyflog 2.9 pwynt canran.
3.1 Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn glir o ran ein hamcan i gau'r bwlch cyflogaeth rhwng pobl anabl a gweddill y boblogaeth sy'n gweithio, ac mae ein Cerrig Milltir Cenedlaethol yn gosod targed hirdymor ar gyfer dileu'r bwlch cyflog ar sail rhyw, anabledd ac ethnigrwydd erbyn 2050.
3.2 Yn 2021, sefydlodd y Prif Weinidog ar y pryd y Tasglu Hawliau Pobl Anabl. Mae'r tasglu'n dod ag unigolion â phrofiadau bywyd, arweinwyr polisi Llywodraeth Cymru, a sefydliadau cynrychioliadol ynghyd i fynd i'r afael â'r problemau a'r rhwystrau sy'n effeithio ar fywydau llawer o bobl anabl, ac a nodwyd yn Adroddiad Drws ar Glo.
3.3 Mae'r Tasglu yn cael ei gadeirio ar y cyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip, a'r Athro Debbie Foster, awdur adroddiad Drws ar Glo.
3.4 Mae'r Tasglu wedi ymroi i egwyddorion cydlunio ac wedi ymgysylltu a gweithio gyda dros 350 o randdeiliaid allanol a 200 o arweinwyr polisi. Cafodd gefnogaeth gan Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Anabledd Llywodraeth Cymru a'r Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl hefyd.
3.5 Mae'r Tasglu wedi sefydlu cyfres o weithgorau sy'n canolbwyntio ar themâu penodol. Mae gwaith y gweithgor Cyflogaeth ac Incwm yn arbennig o berthnasol i ymchwiliad y Pwyllgor. Mae'r gweithgor hwn wedi archwilio materion amrywiol sy'n ymwneud â dileu rhwystrau sy'n llyffetheirio cyfranogiad, cadw swyddi a chynnydd yn eu gwaith ar ran unigolion anabl yn y gweithle.
3.6 Rydym yn disgwyl y bydd argymhellion y tasglu yn llywio cynllun gweithredu trawslywodraethol yr ydym yn rhagweld y byddwn yn ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghori yng Ngwanwyn 2025.
4.1 Mae Llywodraeth Cymru’n defnyddio'r model cymdeithasol o anabledd. Mae hyn yn cael ei ddangos yn ein gweithredoedd fel cyflogwr, yn y ffordd yr ydym yn datblygu polisi, a'n dull gweithredu wrth gyflawni. Mae hyn yn golygu ein bod yn canolbwyntio ar yr hyn y gall pobl ei wneud a'i gyflawni os caiff rhwystrau cymdeithasol eu dileu, yn hytrach nag ar yr hyn na allant ei wneud oherwydd eu hamhariadau.
4.2 Mae Llywodraeth Cymru yn cadw ei statws fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, ac fel cyflogwr rydym yn gwneud addasiadau rhesymol yn ein prosesau recriwtio a'n hamgylchedd gwaith. Mae ein dull o ymdrin ag addasiadau wedi cael ei gydnabod gyda gwobr gan Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu Cymru.
4.3 Ar hyn o bryd, mae 6.4% o weithlu Llywodraeth Cymru wedi datgan eu bod yn bobl anabl. Mae'r ffigwr hwn wedi cynyddu'n raddol ers 2015, pan oedd pobl anabl yn 4.4% o'r gweithlu.
4.4 Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan ei nod o ddyrchafu staff anabl ar lefel sy'n uwch na'u cyfran o boblogaeth y sefydliad, er mwyn mynd i'r afael â'r diffyg cynrychiolaeth ddigonol presennol ar bob lefel o'r sefydliad. Ers 2021, rydym wedi cyflawni'r nod hwn, gyda chyfradd gyfartalog o 5.9% dros y 3 blynedd diwethaf.
4.5 Yn ein hymdrechion recriwtio allanol, ein nod yw cael 20% o'r staff newydd a gyflogwn yn bobl anabl erbyn 2026. Erbyn 2030, rydym yn bwriadu cynyddu hyn i 30% i fynd i'r afael yn sylweddol â diffyg cynrychiolaeth ddigonol o ranpobl anabl yn Llywodraeth Cymru.
4.6 Er gwaethaf diffygion y model meddygol, yr her sy'n ein hwynebu yw ei fod yn dal i barhau mewn rhai rhannau eraill o'n cymdeithas, gan gynnwys ymhlith rhai cyflogwyr. Mae angen newid ehangach i'r model cymdeithasol o hyd a'r model cymdeithasol o anabledd yw’r sail i waith ein Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl hefyd, a'n hymgysylltiad â chyflogwyr.
5.1 Mae Llywodraeth Cymru yn cyflogi pum Hyrwyddwr Cyflogaeth Pobl Anabl yn aelodau parhaol o'i staff. Mae pob un o'r hyrwyddwyr yn dod â phrofiadau bywyd a dealltwriaeth ddofn ac ymarferol o'r model cymdeithasol o anabledd yn eu sgil, ac mae eu gwaith yn ymwneud â'r sefyllfa o fewn a thu allan i Lywodraeth Cymru.
5.2 Yn fewnol, mae'r Hyrwyddwyr yn cyfrannu profiadau a gwybodaeth o'u bywydau i ddylanwadu ar ddatblygu polisi a dull gweithredu Llywodraeth Cymru fel cyflogwr. Yn allanol, mae'r Hyrwyddwyr yn ymgysylltu â chyflogwyr, sefydliadau sy'n cynrychioli cyflogwyr ac undebau llafur. Mae'r gwaith hwn yn cael ei adlewyrchu mewn pum amcan strategol:
§ Amcan Strategol 2: Creu perthynas â phartneriaid cyflawni yn y Llywodraeth a thu allan ac â gwasanaethau cymorth gyda'r nod o wella darpariaeth a sicrhau'r effeithiau cadarnhaol mwyaf posibl ar gyfer pobl anabl yng Nghymru.
§ Amcan Strategol 3: Llywio'r gwaith o gyflawni'r Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau, gyda'r nod o sicrhau bod ein rhaglenni a'n gwasanaethau cyflogadwyedd a sgiliau yn cyflawni eu dibenion ar gyfer pobl anabl.
§ Amcan Strategol 4: Gweithio gyda'r Tasglu Hawliau Pobl Anabl a chydweithwyr perthnasol yn Llywodraeth Cymru i gyfrannu profiadau a gwybodaeth o'u bywydau i ddylanwadu ar ddatblygu polisi ehangach Llywodraeth Cymru sy'n effeithio ar gyflogaeth pobl anabl.
§ Amcan Strategol 5: Cyfrannu at waith corfforaethol perthnasol gyda'r nod o wella arferion Llywodraeth Cymru fel cyflogwr.
5.3 Mae'r gwaith hwn yn ategu gwaith Cynghorwyr Cyflogaeth Pobl Anabl Busnes Cymru sy'n ymgymryd â rôl debyg sy'n canolbwyntio ar fusnesau newydd a mentrau bach i ganolig (BBaCh).
5.4 Mae cymorth arbenigol i wella arferion ar gael gan Gynghorwyr Cyflogaeth Pobl Anabl sy'n gweithio ledled Cymru ac sy'n darparu cymorth wedi'i deilwra yn ôl anghenion cleientiaid ar sail un i un neu mewn cyfarfodydd staff. Mae'r cyngor yn cynnwys recriwtio cynhwysol, cymorth ariannol, cadw staff ac achrediad. Mae'r cynghorwyr hefyd yn helpu unigolion i oresgyn rhwystrau i ddechrau busnes neu fynd yn hunangyflogedig.
5.5 Mae Busnes Cymru yn hyrwyddo hunangyflogaeth a chyfleoedd am waith i bobl anabl drwy ddigwyddiadau, cylchlythyrau a sianeli cyfryngau cymdeithasol, yn ogystal â thrwy gymorth cynghori Busnes Cymru. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o wybodaeth a chanllawiau ar wefan Busnes Cymru ynghylch cefnogi pobl anabl o fewn y gweithlu[2].
5.6 Mae Busnes Cymru wedi datblygu modiwl ar-lein a luniwyd i helpu cyflogwyr i gynyddu eu gwybodaeth am y model cymdeithasol o anabledd a'u dealltwriaeth ohono. Yn ogystal, i gefnogi entrepreneuriaid anabl, mae Busnes Cymru ac Anabledd Cymru wedi cynhyrchu Canllaw Arferion Da[3] sy'n rhoi gwybodaeth a chyngor ymarferol.
5.7 Mae'r model cymdeithasol o anabledd yn rhan annatod o'n holl raglenni cyflogadwyedd, ac mae hyn yn golygu'r canlynol:
§ Trefniadau gweithio hyblyg: mae darparwyr yn annog cyflogwyr i gynnig oriau gwaith hyblyg, opsiynau ar gyfer gweithio o bell, a chyfleoedd i rannu swyddi er mwyn darparu ar gyfer anableddau amrywiol.
§ Prosesau Recriwtio Hygyrch: Mae darparwyr yn gweithio gyda chyflogwyr i sicrhau bod gweithdrefnau recriwtio yn cael eu haddasu i sicrhau hygyrchedd.
§ Addasiadau yn y gweithle: Rhoddir addasiadau ar waith, fel gweithfannau ergonomig, technolegau cynorthwyol, a rhaglenni hyfforddi wedi'u teilwra'n bwrpasol, i gefnogi gweithwyr anabl.
5.8 Rydym wedi prif ffrydio'r model Hyfforddwr Swyddi Cyflogaeth â Chymorth i mewn i Dwf Swyddi Cymru+. Cyfran y dysgwyr a hunan-nododd eu bod yn anabl neu sydd ag anhawster dysgu, anabledd dysgu neu awtistiaeth o'r rhai'n cychwyn ar y rhaglen oedd 23.8% rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2024. Er mwyn gwella mynediad, rydym wedi dileu'r gofyniad i bobl ifanc fod yn bresennol ar y rhaglen am isafswm o oriau.
5.9 Mae holl Gynghorwyr Gyrfaoedd Gyrfa Cymru a Cymru'n Gweithio wedi ymgymryd â hyfforddiant ar y model cymdeithasol o anabledd. Yn ogystal â'u gwasanaethau craidd, ar gyfer pobl ifanc anabl, mae Gyrfa Cymru yn gwneud y canlynol:
§ Darparu cyngor ar fynediad i waith ac addasiadau rhesymol
§ Atgyfeirio at sefydliadau sy'n cynnig cyflogaeth â chymorth os mai dyma'r opsiwn mwyaf priodol.
§ Cefnogi'r broses Cynllun Datblygu Unigol, eirioli ar ran person ifanc a gwneud rhieni'n ymwybodol o gyfleoedd.
§ Darparu adran wedi'i neilltuo i bobl ifanc anabl ar eu gwefan, ‘Fy Nyfodol’.
6.1 Nod ein Cynllun Gweithredu ar Anabledd o ran Prentisiaethau Cynhwysol yw cael gwared ar rwystrau a chreu amgylchedd cefnogol i bobl anabl gymryd rhan mewn prentisiaethau. Mae hyn yn cynnwys darparu cymorth ychwanegol yn ystod y brentisiaeth a sicrhau bod addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud.
6.2 Mae'r Cynllun Cymhelliant i Gyflogwyr yn annog cyflogwyr i recriwtio pobl anabl trwy ddarparu cymhelliant ariannol a chymorth yn y gwaith ac mae Prentisiaethau â Chymorth a Rennir yn darparu cymorth ychwanegol i brentisiaid anabl.
6.3 Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos, erbyn ail chwarter blwyddyn academaidd 2023/24, roedd dros 11% o'r 4,515 o brentisiaethau a gychwynnwyd gan ddysgwyr wedi'u cychwyn gan rai sy'n hunan-nodi eu bod yn anabl neu sydd ag anhawster dysgu, anabledd dysgu neu awtistiaeth. Mae hyn yn cymharu â 6% yn 2016/17 (pan welwyd y ffigyrau ar brentisiaethau pobl anabl am y tro cyntaf), 8% yn 2020/21, 10% yn 2021/22 a 12% yn 2022/23.
7.1 Er ein bod yn cydnabod y gall gwirfoddoli ddarparu sgiliau a phrofiadau newydd, mae ein gwaith yn canolbwyntio ar wella cyfranogiad pobl anabl, eu cynnydd, a'u profiadau'n gyffredinol mewn swyddi â thâl, sy'n deg, yn saff ac yn ddiogel.
Sefydlwyd y Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl yn 2012 ac mae'n cael ei gadeirio gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip. Mae'r aelodaeth yn cynnwys unigolion a sefydliadau sy'n prysur weithio tuag at sicrhau cydraddoldeb llwyr i bobl anabl. Mae'r Fforwm yn cwrdd o leiaf deirgwaith y flwyddyn.
Ei brif bwrpas yw galluogi aelodau i roi adborth a chyngor i Lywodraeth Cymru ar faterion sy'n effeithio ar fywydau pobl anabl yng Nghymru ac mae'n rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru ymgynghori ag aelodau'r Fforwm ynghylch cynlluniau a chynigion polisi newydd a rhai sydd ar y gorwel. Mae'r Fforwm hefyd yn helpu i sicrhau bod Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus yng Nghymru yn gweithio o fewn egwyddorion ac arferion y Model Cymdeithasol o Anabledd ac yn gweithio i ddileu ableddiaeth.
Sefydlwyd y Tasglu Hawliau Pobl Anabl yn 2021 mewn ymateb i adroddiad 'Drws ar Glo: datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl Covid-19'. Cafodd ei gadeirio ar y cyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip a'r Athro Debbie Foster o Brifysgol Caerdydd. Cynhaliwyd cyfarfod olaf y Tasglu ym mis Mehefin 2024.
Roedd yr aelodaeth yn cynnwys unigolion â phrofiad bywyd o anabledd, mudiadau pobl anabl, sefydliadau cynrychioliadol ac arweinwyr polisi Llywodraeth Cymru.
Ei bwrpas oedd dod ag aelodau ynghyd i fynd i'r afael â'r problemau a'r rhwystrau sy'n effeithio ar fywydau llawer o bobl anabl, ac a nodwyd yn Adroddiad Drws ar Glo. Roedd yn darparu goruchwyliaeth strategol ar gyfer deng gweithgor, pob un dan arweiniad unigolion anabl, sef:
|
Ymgorffori a Deall y Model Cymdeithasol o Anabledd (ledled Cymru) |
Mynediad at Wasanaethau (gan gynnwys Cyfathrebu a Thechnoleg) |
|
Byw'n Annibynnol: Iechyd |
Byw'n Annibynnol: Gofal Cymdeithasol |
|
Cyflogaeth ac Incwm |
Teithio |
|
Plant a phobl ifanc |
Tai Fforddiadwy a Hygyrch |
|
Mynediad at Gyfiawnder |
Lles |
Sefydlwyd Gweithgor Cyflogaeth Pobl Anabl yn 2018 i feithrin ymgysylltiad a deialog rhwng Llywodraeth Cymru, mudiadau pobl anabl, a phartneriaid allweddol eraill, gan gynnwys Adran Gwaith a Phensiynau'r DU a Gyrfa Cymru. Ei nod yw gwella mynediad at gyflogaeth a chanlyniadau cyflogaeth i bobl anabl.
Mae'n cyfarfod bob chwarter ac yn cael ei gadeirio gan yr Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl